
Y bwriad yma yw rhoi syniad i chi o’r math o sylwadau a roddwyd gan y rheiny a wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad. Mae hyn yn bwysig nid yn unig er mwyn gwella deallusrwydd pobl o safbwynt y rheiny sy’n teimlo bod y Cynllun Gweithredu yn niweidiol, ond hefyd fel bod cofnod cyhoeddus o bryderon y cyhoedd petai’r Llywodraeth yn penderfynu anwybyddu lleisiau’r grwpiau dan warchae o ganlyniad i rym a dylanwad y grwpiau lobïo ar ein gwleidyddion.
‘… when emerging evidence shows that a large minority of girls now identifying as trans are also autistic… what safeguards exist to protect these children from making disastrous decisions at a young age?’
‘The high prevalence of PTSD, dysphoria, neuro-divergence, self-harming and eating disorders among people presenting with issues relating to sex and gender identity is completely ignored in the Action Plan.’
O Orffennaf 2021 i Hydref 2021, cynhaliwyd ymgynhoriad gan Lywodraeth Cymru ar y Cynllun Gweithredu LHDTC+ arfaethedig. Os ewch chi i wefan y Llywodraeth, fe welwch y neges yma:
‘mae ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei [sic] adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law’.
Gobeithiwn yn daer bod y broses o adolygu dal ar waith blwyddyn gron yn ddiweddarach yn golygu bod y llywodraeth wedi derbyn digon o ymatebion meddylgar, craff a dilys i orfodi iddynt ddeffro ac ail-ystyried cynnwys ac egwyddorion gwallus y cynllun. Wedi dweud hynny, rydym ymhell o fod yn hyderus o hyn.
‘It [the Action Plan] will cause significant conflict when people try to assert their sex-based rights as described in law. A perfect example of this can be found in the Introduction written by the First Minister, the Minister for Social Justice and the Deputy Minister for Social Partnership in the Easy Read version of the Plan. It says “protected characteristics includes race, age, gender, religion, disability and sex”. This is not accurate. ‘Gender’ is not a protected characteristic, whereas ‘sexual orientation’ and ‘transitioning’ are.’
Mae’r un wybodaeth gamarweiniol parthed y Nodweddion Gwarchodedig yn cael ei defnyddio yn y ddogfen lawn hefyd. P’un ai bod y Llywodraeth yn camarwain y cyhoedd yn fwriadol neu yn dangos diffyg dealltwriaeth o’r gyfraith, mae’r ddau esboniad yr un mor ddamniol a’i gilydd.
‘The fact the Action Plan itself exhibits significant bias, totaling 121 references to ‘trans’ or ‘queer’ and only 50 references to ‘lesbian’, ‘gay’ and ‘bisexual altogether, supports the claims that LGB people are not equal beneficiaries of the Government’s Action Plan but would actually be significantly discriminated against by its implementation.’

Daw i Ni Ein Doe yn Ôl.
Basai’n resymol i feddwl ein bod ni fel grŵ o bobl LHD yn gryn gefnogol o unrhyw gynllun sydd yn datgan ymrwymiad cenedlaethol at ‘hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+’? Y broblem yw nid cynllun sy’n cefnogi pobl LHD sydd gennym yn y cynllwn hwn.
‘The priorities of LGB people are not always compatible with those of trans people as the latter seek to eliminate the importance of sex and sexual orientation in law. Creating just one Action Plan for people whose identity is sex-based/sexuality-based and those whose identity is based on gender identity exhibits a complete lack of understanding of the material problems faced by diverse groups by erroneously placing them under one umbrella.’
‘Any such Action Plan should state the correct definitions of ‘homosexual’, ‘gay’, ‘lesbian’ and ‘bisexual’ and make it absolutely clear that gender concepts play no part in these definitions.’
Gan ystyried bod yr ymchwil prin sydd gennym yn awgrymu bod hyd at 80% o blant sy’n huniaethu â bod yn ‘traws’ yn debygol o fod yn lesbiaid neu hoywon ifainc mewn trallod, onid yw’r Llywodraeth yn peryglu dyfodol y plant yma wrth gynnig dim ond un math o therapi sy’n cadarnhau ac yn annog ymlymiad at hunaniaeth sy’n debygol o fod yn fyrhoedlog?
‘Affirmation as the sole type of therapy for gender questioning children and young people puts the Welsh Government at risk of operating a policy of state-sanctioned gay conversion therapy.’
Mae gwahardd amrediad eang o leisiau LHD fel rhan o bolisi sy’n bwriadu helpu plant a phobl ifanc sy’n ansicr o’u rhywioldeb yn beryglus tu hwnt. Does gan grwpiau lobïo LHDTC+ ddim hawl i siarad ar ran pobl LHD yn gyffredinol.
‘As a young, gender nonconforming child, ignorant of what being gay was, even fearful of it, I would’ve found the promises of gender ideology incredibly alluring. Affirmation therapy would’ve compounded my ignorance, setting me on a pathway of transition that would not have been the right path for me.’
‘I would like to end by commenting on the very obvious omission of detransitioners in the Welsh Government’s LGBT Action Plan. In light of the emerging evidence from detransitioners/desisters and clinicians, a government that is determined to push affirmation therapy as the only pathway for gender questioning youth must also make provision for those who seek to detransition and to be accountable to those for whom medical transition was not the correct pathway in life.’
Manifesto Grwpiau Lobïo Eithafol
Yr hyn sydd gennym yn y ddogfen ddrafft yw maniffesto ar gyfer athroniaeth Americanaidd sy’n mynnu bod hawliau ac anghenion aelodau eraill cymdeithas yn llai pwysig nag hunaniaeth anwadal, amhosib i’w diffinio, un grŵp arbennig. Does dim ystyriaeth o’r ffaith bod grwpiau lobïo yn gwthio athroniaeth neo-grefyddol ac homoffobig ar weddill y gymdeithas gyda sêl bendith a chefnogaeth y Llywodraeth yng Nghymru.
‘I believe the Action Plan will be damaging to LGB people. It not only promotes the use of the word ‘queer’ (on the basis of nothing more than some people, largely heterosexual people, have decided to ‘reclaim’ it), but also it promotes an ideology that believes that same-sex attraction is just a ‘genital preference’ that we need to ‘unlearn’.’
‘Who says the word ‘queer’ has been ‘reclaimed’? Heterosexual people?’
‘Queer’ is still a synonym for ‘not normal’ and we are expected to be ok with this? This is not inclusive language, it is cultural appropriation, colonisation and homophobia.’
To see this word [queer] proudly used by our own Government makes me feel that gay people and history are being erased, yet again, in order to accommodate heterosexual people’s prejudices.’
‘Oes rhaid i fi dderbyn cael fy ngalw’n ‘cwiar’ neu wynebu cyhyddiadau megis ‘trawsffobia’? Homoffbia yw hyn, yn union fel yr homoffobia wnes i ei wynebu fel person hoyw ifanc yng Nghymru trwy gydol yr 1980au.’
Yn ôl disgyblion y grefydd newydd hon, does NEB – nid menywod, nid pobl hoyw, nid plant hyd yn oed – yn fwy bregus nac ychwaith yn wynebu fwy o berygl o ddydd i ddydd na’r grŵp ‘sanctaidd’ yma. Felly, mae eu hathroniaeth yn mynnu, rhaid dyrchafu eu dymuniadau nhw uwchlaw pob unigolyn a grŵp arall – serch y ffaith does dim tystiolaeth ddibynadwy i gefnogi eu daliadau o gwbl.
‘Mae’r Cynllun Gweithredu wedi’i ysgrifennu gyda dymuniadau pobl TC+ yn unig mewn golwg ac mae’n anwybyddu’r drwg a wneir i bobl LHD, menywod a phlant drwy ei weithredu.’
Pa Beth Yr Aethom Allan I’w Hennill?
Yr hyn sy’ fwya bisâr am ymlediad yr ideoloeg niweidiol hon, yw’r modd y mae hi wedi llwyddo argyhoeddi cynifer o bobl, sefydliadau cyhoeddus, elusennau a chwmnïau o bob math bod y mesurau diogelwch a’r hawliau cyfreithlon sydd eisoes gan grwpiau eraill yn israddol neu’n hollol ddibwys o gymharu â dymuniadau mwyfwy eithafol pobl traws a ‘cwiar’. Does DIM cydnabyddiaeth o bwrpas hawliau menywod, pobl hoyw neu blant yn hyn oll na chydnabyddiaeth o’r rhesymau y roddwyd yr hawliau gyfreithlon hynny iddynt yn y lle cyntaf. Mae e fel petai bod yr ideoleg wedi achosi amnesia torfol wrth i bobl amsugno ac ail-adrodd y catecismau disynnwyr sy’n rhan annatod a phwerus o’r athroniaeth anwyddonol hon. Yn awr, dyfarnir pobl hoyw yn gul eu barn ac yn rhagfarnllyd am iddynt wrthod pobl o’r rhyw gyferbyniol fel partneriaid rhamantus a/neu rywiol!
Yr hyn y mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ y Llywodraeth yn dangos yw bod ein cynrychiolwyr etholedig, y Llywodraeth etholedig yng Nghymru, wedi mabwysiadu’r credoau hyn heb unrhyw graffter neu wrthrychedd o gwbl.
‘LGB people need the Government to recognize the diversity of experience and belief in the lesbian, gay, bisexual and trans communities. This cannot happen when a so-called ‘Expert Panel’ is formed without proper, Nolan-compliant procedures. A FOI request reveals, the panel members were selected on the basis of their [pre-existing] compliance to a rigid set of ideas about ‘gender identity’.’
Mae’r llywodraeth wedi rhoi’r cyfrifoldeb o bennu gwerthoedd moesol y llywodraeth a’r wlad yn nwylo grwpiau lobïo oherwydd iddynt fethu’n llwyr i sicrhau amrediad eang o leisiau a safbwyntiau yn y broses o lunio’r Cynllun Gweithredu. Yn fyr, mae’r Llywodraeth wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb i bobl nas etholwyd gan unrhyw berson yng Nghymru, megis Stonewall, sydd wedi eu galluogi i weithredu eu hagenda ideolegol personol ar lefel cenedlaethol. Yn ogystal â hyn, mae’r grwpiau yma wedi llwyddo camarwain nifer fawr o bobl a sefydliadau (gan gynnwys y Llywodraeth, mae’n debyg) bod eu hagenda yn adlewyrchu’r gyfraith yn y DU!
‘In effect, the Welsh Government is adopting a neo-religious belief system that is not widely shared in society, namely that an individual can literally change their sex and that this alleged phenomenon actively trumps biological sex in the domain of rights in law. The lack of a properly evidenced and consulted-upon Equality Impact Assessment makes adoption of the recommendations vulnerable to judicial review. The Welsh Government has not followed its own guidelines in regard to Public Sector Equality Duty which, again, calls into question the Action Plan’s lawfulness.’
‘The Government’s impartiality and adherence to evidence must be clear in any proposal put out for public consultation. The Government should reject policy input from any lobbying group with which the Government has financial connections, such as Stonewall. Allowing lobbying organisations who receive large Government donations to provide training, policy advice and assessment of Government performance is clearly unacceptable and could expose the Government to accusations of corruption.’
Sgwn i faint o’r sylwadau anghyffyrddus niferus a dderbyniwyd gan y llywodraeth y byddan nhw yn ddigon dewr a thryloyw i gyhoeddi fel rhan o’r adroddiad ar yr ymateb i’r Cynllun Gweithredu? A pha effaith caiff yr ymatebion hyn ar y Cynllun Gweithredu terfynol ac ar fywydau pobl LHD yng Nghymru?
Amser a ddengys yn yr achos yma, ond un peth sy’n sicr: nid yw hawliau pobl LHD wedi dioddef y fath ymosodiad ers hugain mlynedd neu fwy. Yr hyn aethom allan i’w hennill oedd cydraddoldeb, ond mae ein hawliau fel pobl sydd ond yn teimlo atyniad rhamantus/rhywiol tuag at bobl o’r un RHYW dan warchae unwaith eto.
Hawl i fod, hawl i fyw, hawl i garu yr un rhyw!